Cwmnïau Gyrfaoedd Cymru
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o gwmnïau Gyrfa Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru o dan Adran 34 Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Cyhoeddir yr adroddiadau hyn gan y Cynulliad ac maent ar gael ar wefan Estyn.
Mae Estyn fel arfer yn arolygu pob un o chwe chwmni Gyrfa Cymru unwaith yn ystod cylch chwe blynedd. Cwblheir y cylch presennol ym mis Awst 2010. Mae Estyn hefyd yn ymgymryd â gwaith thematig mewn perthynas â’r Cwmnïau Gyrfa yng Nghymru yn unol â chytundeb gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.