Lleoliadau na chynhelir
Deddf Fframwaith a Safonau Ysgolion 1998 sy'n rheoli'r gwaith o arolygu addysg feithrin na chynhelir gan ddarparwyr a gaiff eu cynnwys yng Nghynlluniau Gofal Plant a Datblygiad Blynyddoedd Cynnar awdurdodau lleol. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod y Prif Arolygydd yn hysbysu Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch:
- ansawdd a safonau addysg feithrin; a
- datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol plant y darperir addysg feithrin ar eu cyfer.
Ar hyn o bryd, caiff y lleoliadau hyn eu harolygu mewn cylch chwe mlynedd a gychwynnodd ym 1999. Wrth gynnal arolygiadau, mae'n ofynnol i arolygwyr addysg feithrin cofrestredig gydymffurfio â Fframwaith Estyn ar gyfer Arolygu'r Ddarpariaeth Addysgol i Blant Cyn Oed Ysgol Gorfodol.
Mae Estyn yn gyfrifol am:
- hyfforddi a chofrestru arolygwyr addysg feithrin;
- monitro ansawdd arolygiadau ac adroddiadau arolygiadau; a
- chadarnhau arfarniadau pan ystyrir bod ansawdd y ddarpariaeth addysgol lawer yn is na'r hyn sy'n angenrheidiol.
Cliciwch am:
Ffurflen Arfarnu Cyffredinol (FfAC)![]()
Ffurflen Arfarnu Cyffredinol (FfAC)![]()
Un o ddau dempled a gynigwyd i gofnodi sylwebaethau cyn-arolygiad![]()
Un o ddau dempled a gynigwyd i gofnodi sylwebaethau cyn-arolygiad![]()
Adroddiadau arolygu blynyddoedd cynnar
Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar