Unedau cyfeirio disgyblion
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o unedau cyfeirio disgyblion, dan Adran 28 Deddf Arolygu Ysgolion 2005. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod y Prif Arolygydd yn cadw cofrestr o arolygwyr annibynnol (arolygwyr cofrestredig, tîm a lleyg) a ystyrir yn addas ganddo i gynnal yr arolygiadau hyn. Dan y Ddeddf, gall y prif Arolygydd gyfarwyddo Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi (AEM) hefyd i arolygu ysgolion, lle bydd angen.
Caiff pob uned ei harolygu o leiaf unwaith bob chwe blynedd. Mae'r arolygiadau hyn yn delio â phob agwedd ar ddarpariaeth uned. Swyddogaeth arolygiad dan Adran 10 y Ddeddf yw adrodd ar:
- y safonau addysgol a gyflawnir yn yr uned;
- ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr uned;
- i ba raddau mae addysg yn bodloni ystod y disgyblion yn yr ysgol;
- ansawdd yr arweinyddiaeth yn yr uned a'r rheolaeth ohoni, gan gynnwys a yw'r adnoddau ariannol yn cael eu rheoli mewn ffordd effeithlon neu beidio;
- datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn yr ysgol; a
- chyfraniad yr uned i les disgyblion.
Wrth gynnal yr arolygiadau hyn, mae'n ofynnol i arolygwyr cofrestredig gydymffurfio â Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru a’r Arweiniad ar Arolygu Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Mae AEM yn monitro ansawdd arolygiadau Adran 10 ar ran y Prif ArolygyddCliciwch am:
Ffurflen Arfarnu Cyffredinol (FfAC)![]()
Ffurflen Arfarnu Cyffredinol (FfAC)![]()
Arolwg Thematig O Unedau Cyfeirio Disgyblion A Darpariaeth Debyg![]()
Un o ddau dempled a gynigwyd i gofnodi sylwebaethau cyn-arolygiad![]()
Un o ddau dempled a gynigwyd i gofnodi sylwebaethau cyn-arolygiad![]()
Adroddiadau arolygu unedau cyfeirio disgyblion
Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion