Dysgu yn y Gwaith
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o hyfforddiant galwedigaethol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy’r Adran Plant, Addysg, Dysgol Gydol Oes a Sgiliau. Rydym yn cyflawni’r rhain o dan adran 77 Deddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae tua 80 o ddarparwyr yng Nghymru. Dechreuodd y cylch arolygu chwe blynedd ym mis Medi 2004 a daw i ben ym mis Awst 2010.